SL(6)407 – Gorchymyn Gwahardd Gwaredu Gwastraff Bwyd i Garthffos (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023

Cefndir a Diben

Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â gwahardd gwaredu gwastraff bwyd i garthffos o dan adran 34D o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (fel y’i mewnosodwyd gan adran 66 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae torri’r gwaharddiad hwn yn drosedd o dan adran 34D o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990.

Cyflwynir cyfundrefn sancsiynau sifil i alluogi’r rheoleiddiwr i osod cosbau ariannol penodedig, cosbau ariannol amrywiadwy a chosbau am beidio â chydymffurfio. Y rheoleiddiwr, at ddibenion y Gorchymyn hwn, yw’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae’r fangre ynddi.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer y weithdrefn sy’n ymwneud â’r sancsiynau sifil, gan gynnwys apelau. Mae apelau o dan y Gorchymyn hwn i’w cyflwyno i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf.

Mae’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn yn darparu bod rhaid cyhoeddi canllawiau sy’n ymwneud â defnyddio sancsiynau sifil. Rhaid hefyd gyhoeddi canllawiau sy’n ymwneud â defnyddio cosbau am beidio â chydymffurfio a hysbysiadau adennill cost gorfodaeth. Cyn i unrhyw ganllawiau gael eu cyhoeddi, mae’n ofynnol i’r rheoleiddiwr ymgynghori. Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn darparu ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth ynghylch camau gorfodi a gymerir gan y rheoleiddiwr. Mae’r rheoleiddiwr yn gallu adennill costau penodol gorfodaeth yn achos cosbau ariannol amrywiadwy.

Mae’r rheoleiddiwr yn gallu adennill unrhyw gosb ariannol benodedig, unrhyw gosb ariannol amrywiadwy neu unrhyw gosb am beidio â chydymffurfio a osodir gan y rheoleiddiwr o dan y Gorchymyn hwn ynghyd ag unrhyw gosb ariannol am dalu’n hwyr.

Mae erthygl 6 yn rhoi pwerau i swyddogion gorfodaeth i ymchwilio mewn perthynas â throseddau posibl, gan gynnwys pwerau mynediad ac ymafael.

Y weithdrefn

Cadarnhaol Drafft

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo’r Rheoliadau drafft.

Materion technegol: craffu

Nodir y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Yn erthygl 3, mae'r ddarpariaeth yn cyfeirio at "drosedd o dan adran 34D o Ddeddf 1990". Ond ar bob achlysur arall yn y Gorchymyn hwn mae'r darpariaethau bob amser yn cyfeirio at drosedd o dan "adran 34D (3)" o Ddeddf 1990 (gweler erthyglau 5, 6(1) a (3), a pharagraffau 1(1) ac 11(1) o'r Atodlen). Yn hyn o beth, adran 34D(3) yw'r ddarpariaeth benodol sy'n creu trosedd o dan adran 34D o Ddeddf 1990. Felly, byddai wedi bod yn fwy manwl gywir i ddyfynnu “adran 34D(3)” o Ddeddf 1990 yn erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn, a hefyd yn fwy cyson â darpariaethau eraill y Gorchymyn.

2. Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft.

Yn Atodlen 1, ym mharagraff 11(1), yn y testun Cymraeg, mae’r term “determine” wedi’i gyfieithu fel “ganfyddir”. Mae Geirfa yr Uned Gyfieithu Ddeddfwriaethol yn nodi “canfod” fel y term a ffefrir wrth gyfleu ystyr “determine” yng nghyd-destun canfod, sefydlu neu ddarganfod rhywbeth. Ond mae’n ymddangos ei fod yn anghywir yng nghyd-destun paragraff 11(1) lle mae’r canfod yn cyfeirio at bennu swm y gosb ariannol sydd i'w thalu i'r rheoleiddiwr, ac nad yw wedi cael ei defnyddio yn unman arall yn y Gorchymyn hwn.

Nodir y term "pennu" hefyd yng Ngeirfa yr Uned Gyfieithu Ddeddfwriaethol fel y term a ffefrir wrth gyfleu ystyr "determine" yng nghyd-destun gwahanol o nodi, gosod neu ddynodi swm ac ati. Yn hyn o beth, "pennu" yw'r term a ddefnyddiwyd fel cyfieithiad o "determine" mewn mannau eraill yn y Gorchymyn hwn yn yr un cyd-destun â pharagraffau 11(1) – gweler paragraffau 19(2) a (3), a 25(3)(c) o'r Atodlen. Yn ogystal, cyfieithwyd "determine" fel "pennu" mewn darpariaethau tebyg a geir mewn Offerynnau Statudol Cymru eraill megis paragraffau 1(1)(a) a 24(2) a (3) o'r Atodlen i OS 2018/760 (Cy. 151).

Felly, mae’n ymddangos y dylid bod wedi cyfieithu “determine” fel “bennir” yn hytrach na “ganfyddir” i gyfleu ystyr y term hwnnw’n gywir yng nghyd-destun paragraff 11(1) o’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

Mae rhywfaint o ddryswch hefyd mewn perthynas â chyfieithu’r term hwn yn y paragraff cyfatebol sydd wedi’i rifo o’r Atodlen i‌ Reoliadau Gwahardd Llosgi Gwastraff Penodedig, neu ei Ddodi ar Safle Tirlenwi (Cymru) 2023 lle mae "ganfyddir bennir" wedi'i ddefnyddio yn y testun Cymraeg.

3. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Yn yr Atodlen, ym mharagraff 25(2) a (3), ceir cyfeiriadau a ddisgrifir yn anghywir fel "paragraff (1) (b)" ond dylid eu disgrifio fel "is-baragraff (1) (b)" – gweler Drafftio Deddfau i Gymru 6.16(2) ynghylch cyfeiriadau cyfansawdd. Yn ogystal, ym mharagraff 28(2) o'r Atodlen, ceir cyfeiriad tebyg sy'n cael ei ddisgrifio'n anghywir fel "paragraff (1)(a)" y dylid ei ddisgrifio fel "is-baragraff (1)(a)".

 

4. Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft.

Yn yr Atodlen, ym mharagraff 25(3)(c), yn y testun Saesneg, defnyddiwyd yr ymadrodd “determining the amount” mewn perthynas â swm y gosb. Fodd bynnag, ym mharagraff 26(c), defnyddiwyd ymadrodd ychydig yn wahanol, “establishing the amount”, mewn perthynas â'r cosbau am beidio â chydymffurfio a’r hysbysiadau adennill cost gorfodaeth.

Yn y testun Cymraeg, cyfieithwyd “determining” ac “establishing” gan ddefnyddio'r un gair, "bennu" sy'n cyfleu ystyr nodi/gosod swm i’w dalu yn y cyd-destun hwn. Mae'n awgrymu i ddarllenydd y testun Cymraeg fod “determining the amount” ac “establishing the amount” yn golygu’r un peth yn y paragraffau hynny. Os oes gwahaniaeth mewn ystyr, byddai wedi bod yn fwy priodol defnyddio term gwahanol yn nhestun Cymraeg paragraff 26(c), megis "gadarnhau". Byddai hyn wedi cyfleu ystyr “establishing” yn yr ystyr o ganfod neu ddarganfod y swm dan sylw.

Felly, nid yw’r cyfieithiad o baragraffau 25(3)(c) a 26(c) yn nhestun Cymraeg yr Atodlen yn cyfleu gwahanol ystyron posibl y testun Saesneg (os oes gwahaniaeth bwriadedig) yng nghyd-destun y paragraffau hynny. Yn ogystal, mae'n golygu bod y cyfieithiad o baragraffau 25(3)(c) a 26(c) yn nhestun Cymraeg yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn wahanol i'r hyn a geir yn y paragraffau cyfatebol yn yr Atodlen i Reoliadau Gwahardd Llosgi Gwastraff Penodedig, neu ei Ddodi ar Safle Tirlenwi (Cymru) 2023, er bod y testun Saesneg yn union yr un fath. Ond nid yw’n glir ychwaith a yw’r gwahaniaeth wrth ddrafftio’r testun Saesneg drwy ddefnyddio “determining” ac “establishing” yn fwriadol oherwydd gwahaniaeth bwriadedig yn eu hystyr neu anghysondeb yn y gwaith drafftio.

Rhinweddau: craffu    

Ni nodwyd pwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â phob un o’r pwyntiau adrodd.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

15 Tachwedd 2023